Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dyddiad yr Adroddiad

02/11/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305295

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cwynodd Mrs A wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2021.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi methu mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r materion a godwyd gan Mrs A. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mrs A a oedd heb gael yr atebion i’w chwestiynau am ofal ei gŵr.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Mrs A, cytunodd, o fewn 30 diwrnod gwaith, i ymchwilio ac ymateb yn llawn i bob agwedd ar gŵyn Mrs A a gyflwynwyd ym mis Medi 2022, yn unol â Rheoliadau’r GIG (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Unioni Cam) (Cymru) 2011.

Yn ôl