Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dyddiad yr Adroddiad

13/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202206245

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cwynodd Mrs L am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gŵr, Mr L, gan y Bwrdd Iechyd ar 18 Tachwedd 2021. Cwynodd nad ymchwiliwyd yn briodol i boenau ym mrest Mr L, na ddylai fod wedi cael ei ryddhau adref heb archwilio ei bwysedd gwaed uwch a’i risg o broblemau ar y galon, a bod safon cadw cofnodion yn wael.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd natur fer ac ynysig y boen a dioddefodd Mr L yn ei frest yn dangos problem ddifrifol ar y galon ac nad oedd angen iddo gael ymchwiliadau pellach. Er y dylsid bod wedi ail-wirio ei bwysedd gwaed cyn ei ryddhau, mae’n debyg na fyddai hynny wedi newid ei ganlyniad yn y pen draw ac roedd yn briodol ei gyfeirio at ei feddyg teulu am ddilyniant. Ni chadarnhawyd y cwynion hyn.

Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad hefyd fod y cofnod o bresenoldeb Mr L yn un byr iawn, a bod y cofnodion yn anghyflawn. Er bod yr ymchwiliad wedi gallu ystyried a dod i gasgliadau am y gofal a ddarparwyd, dylai cofnodion clinigol fod yn gyflawn fel bod darlun llawn o’r rhesymeg glinigol yn glir. Roedd absenoldeb hyn yn anghyfiawnder i Mrs L oherwydd gallai cofnodion mwy cynhwysfawr fod wedi rhoi rhywfaint o gysur a sicrwydd iddi fod Mr L wedi cael asesiad ystyriol a thrylwyr. Felly, cadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am y diffyg o ran cadw cofnodion, a rhannu’r adroddiad gyda’r meddyg a ryddhaodd Mr L er mwyn iddo yntau gael myfyrio ar y canfyddiadau, ac atgoffa staff perthnasol am bwysigrwydd cadw cofnodion cynhwysfawr.

Yn ôl