Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dyddiad yr Adroddiad

23/11/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305135

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cwynodd Mr A am ymateb y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn am y boen yn ei glun. Dywedodd, yn dilyn yr ymateb i’r gŵyn, nad oedd wedi cael eglurder ynghylch yr amserlenni ar gyfer llawdriniaeth ar ei glun.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn ffurfiol i Mr A er mwyn cadarnhau’r amser aros am lawdriniaeth ar hyn o bryd, ynghyd â’i le presennol ar y rhestr aros.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael cytundeb y Bwrdd Iechyd i roi diweddariad i Mr A am yr amser aros am lawdriniaeth ar hyn o bryd, ynghyd â’i le presennol ar y rhestr aros, o fewn 10 diwrnod gwaith.

Yn ôl