Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dyddiad yr Adroddiad

12/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305226

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cwynodd Mrs B ei bod hi’n anhapus gydag ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) i’w chwynion am ofal a thriniaeth ei gŵr fel claf mewnol.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs B wedi cyflwyno 2 gŵyn, 10 mis ar wahân. Roedd y Bwrdd Iechyd heb ymateb i’r gŵyn gyntaf, a heb roi ymateb boddhaol i’r ail. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs B, darparu ymateb llawn i’r gŵyn a thalu iawndal o £500 iddi am yr oedi wrth ymateb i’w phryderon, o fewn 20 diwrnod gwaith.

Yn ôl