19/05/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202006112
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mrs A ar ran ei mam-yng-nghyfraith, Mrs B, am gyfathrebu gwael, ac am oedi gan y Bwrdd Iechyd wrth wneud diagnosis a thrin ei chanser ofarïaidd eilaidd. Mynegodd Mrs A hefyd bryderon am y ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd agweddau ar gŵyn Mrs A wedi cael eu codi gyda’r Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, roedd yn poeni am gyfeirio’r mater yn ôl at y Bwrdd Iechyd i ymchwilio ac ymateb o ystyried yr amserlenni arferol a difrifoldeb salwch Mrs B a’r angen am ddatrysiad amserol.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, ac er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd i gyflymu’r broses gwyno drwy ymchwilio ac ymateb i bryderon Mrs A o fewn 8 wythnos.