23/10/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202207903
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mrs F am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd yn ystod ei beichiogrwydd ac wrth roi genedigaeth ym mis Tachwedd 2020. Cwynodd yn benodol nad oedd wedi derbyn y wybodaeth briodol ynglŷn â’i hopsiynau geni, o ystyried ei chyflwr gweindyndra (a oedd yn achosi i’r cyhyrau’r wain dynhau’n anwirfoddol) ac felly ni allai wneud dewis gwybodus. Cwynodd hefyd na ddilynwyd ei chynllun genedigaeth oherwydd ni dderbyniodd epidwral pan oedd ceg ei chroth wedi lledu 2cm, ni dderbyniodd gefnogaeth i fwydo ei mab ar y fron ac ni dderbyniodd wybodaeth briodol am ôl-ofal ei episiotomi (gweithdrefn i wneud toriad i wneud agoriad y fagina yn ehangach) ac anemia (cyflwr a achosir gan ddiffyg celloedd coch y gwaed).
Canfu’r ymchwiliad na dderbyniodd Mrs F wybodaeth ddigonol am risgiau’r opsiynau genedigaeth i rywun â gweindyndra. Canfu y dylid bod wedi cysylltu â’r Tîm Anesthetig yn gynharach i ofyn am epidwral i Mrs F ac felly ni dderbyniodd driniaeth lleddfu poen ddigonol ac amserol. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod Mrs F wedi derbyn cefnogaeth briodol i fwydo ei mab ar y fron. Er y canfuwyd bod Mrs F wedi derbyn triniaeth briodol ar gyfer ei anemia, ac na achosodd diffyg gwybodaeth am hyn unrhyw niwed iddi, canfuwyd hefyd na dderbyniodd Mrs F archwiliadau a chyngor digonol ar gyfer ei chlwyf episiotomi a achosodd fwy o ofid iddi pan oedd yn profi poen. Cadarnhawyd y cwynion hyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs F a gwneud taliad iawndal ariannol o £1500 am yr anghyfiawnder a achoswyd o’r methiannau a nodwyd. Cytunwyd hefyd i rannu’r adroddiad gyda chlinigwyr perthnasol, eu hatgoffa o bwysigrwydd cofnodion clir a chyfredol ac atgoffa clinigwyr, i gleifion â gweindyndra, bod angen ystyried hyn ar gyfer pob opsiwn geni er mwyn cynorthwyo’r unigolyn i wneud dewis gwybodus. Cytunodd i atgoffa bydwragedd o bwyntiau dysgu perthnasol, gan gynnwys pwysigrwydd sicrhau y gall menywod sy’n rhoi genedigaeth gael mynediad at feddyginiaeth lleddfu poen ddigonol ac amserol, ac archwilio’r perinëwm yn weledol ar ôl y geni, a darparu gwybodaeth i gleifion ynglŷn â beth i’w wneud os oes ganddynt bryderon yn ymwneud â’r clwyf yn gwella ar ôl cael eu rhyddhau. Cytunwyd hefyd i ddarparu copi i’r Ombwdsmon o’r daflen wybodaeth i gleifion am weindyndra a sut y caiff ei reoli yn ystod beichiogrwydd, yn ystod geni ac ar ôl geni.