Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

23/11/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202107101

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mynegodd Mrs Y bryderon am y gofal a’r driniaeth gastroenteroleg a gafodd Mr X. Yn benodol, lleisiodd bryderon am yr ymchwiliadau a gynhaliwyd, a pha mor gyflym y cafodd y rhain eu gwneud. Cwynodd fod hyn yn y pen draw wedi arwain at oedi yn rhoi diagnosis o ganser y stumog.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr ymchwiliadau a wnaed yn briodol. Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth i ddangos nad oedd proses yr endosgopi neu’r fiopsi wedi dilyn y canllawiau perthnasol neu ymarfer clinigol derbyniol. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon fod atgyfeiriad ar gyfer profion manometreg wedi mynd ar goll ac, er nad oedd hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar y diagnosis o ganser, roedd wedi creu ansicrwydd p’un a ellid bod wedi cael adolygiad gydag ymgynghorydd yn gynt. Roedd methiant hefyd i gyfathrebu’n effeithiol â Mr X fod canser yn parhau i fod yn bosibilrwydd er gwaethaf canlyniad negyddol y biopsi, felly roedd y diagnosis dilynol yn sioc. Cafodd y ddwy agwedd hyn ar y gŵyn eu cadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro a chynnig cyfarfod â theulu Mr X, ac i’r clinigydd dan sylw hefyd fyfyrio a dysgu.

Yn ôl