Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

08/11/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202108667

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Miss C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”). Yn benodol, cwynodd Miss C fod y Bwrdd Iechyd wedi colli cyfleoedd i ganfod a thrin ei chanser ceg y groth yn gynt.
Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad fod y gofal a gafodd Miss C yn rhesymol a bod ymchwiliadau amserol a phriodol wedi cael eu cynnal. Canfu fod y camau a gymerwyd gan glinigwyr y Bwrdd Iechyd rhwng mis Awst 2018 a mis Medi 2020 o fewn yr ystod ymarfer clinigol priodol. Yn unol â hynny, nid oedd unrhyw dystiolaeth y dylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi canfod canser Miss C yn gynt. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.

Yn ôl