22/07/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202002531
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mr K am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar fam (“Mrs L”) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) ac am ei ymateb i’w bryderon.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr K fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb yn ddigonol ac yn amserol i’w gŵyn. Canfu’r ymchwiliad fod methiannau i ddelio â chwynion wedi achosi oedi annerbyniol o 4 blynedd wrth ymateb i’r gŵyn a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi sylw i rai o brif bryderon Mr K. Achosodd hyn anghyfiawnder i Mr K oherwydd yr ansicrwydd hirfaith a’r anhwylustod sylweddol a gafodd wrth fynd ar ôl ei gŵyn. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr K nad oedd Mrs L wedi cael gofal dementia digonol yn Ysbyty’r Waun, ond nododd fod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn y bu methiannau ac wedi cymryd camau cywiro priodol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr K fod y Bwrdd Iechyd wedi colli cyfleoedd i gydnabod methiannau ym mhroses asesu Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ailadrodd ei gynnig o adolygiad ôl-weithredol, byddai hyn wedi digwydd yn llawer cynt pe bai wedi ymdrin â phryderon Mr K yn briodol.
Canfu’r ymchwiliad fod y rheoli ar anghenion gofal croen Mrs L yn Ysbyty’r Waun yn briodol. Fodd bynnag, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agwedd ar y gŵyn hon a oedd yn ymwneud â’r gwasanaeth nyrsys ardal. Canfu’r ymchwiliad y bu methiannau yn y ffordd yr oedd nyrsys ardal yn cyfathrebu â’i gilydd, y teulu a staff cartref gofal, ac yn y gwaith o gofnodi asesiadau. Roedd hyn yn anghyfiawnder sylweddol â Mrs L oherwydd y gallai’r methiannau fod wedi cyfrannu at ddirywiad yng nghyflwr y clwyf ar ei ffêr, niwed pwysedd i’w chlun chwith a methiant i reoli poen cysylltiedig.
Sylwer: Mae crynodebau’n cael eu paratoi o bob adroddiad a ddarperir gan yr Ombwdsmon. Fe all y crynodeb hwn gael ei ddangos ar wefan yr Ombwdsmon ac fe all gael ei gynnwys mewn cyhoeddiadau gan yr Ombwdsmon a/neu mewn cyfryngau eraill. Os hoffech chi drafod y defnydd o’r crynodeb hwn, cysylltwch â swyddfa’r Ombwdsmon.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi adolygu ei brosesau ac wedi cymryd camau cywiro priodol mewn ymateb i’r methiannau a nodwyd. Canfu’r ymchwiliad fod y rheoli ar anghenion gofal croen Mrs L yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn briodol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon felly.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis, ymddiheuro i Mr K a thalu £2,025 iddo mewn perthynas â methiannau i ddelio â chwynion ac effaith y methiannau nyrsys ardal. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd, o fewn 4 mis, gynnal adolygiad o’i bolisïau rheoli cwynion a dechrau defnyddio adroddiad yr ymchwiliad fel astudiaeth achos ar gyfer hyfforddiant mewnol ar ddelio â chwynion. Cytunodd y Bwrdd Iechyd â’r argymhellion hyn.