Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

27/11/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202208258

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Ms B am y gofal nyrsio a roddwyd i’w diweddar fodryb, Mrs C, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tra’i bod yn yr ysbyty rhwng 28 Chwefror a 25 Ebrill 2022. Ystyriodd yr ymchwiliad a roddwyd gofal a thriniaeth briodol i atal Mrs C rhag datblygu briwiau pwyso, ac a oedd y briwiau hynny wedi cyfrannu at y dirywiad yn ei hiechyd.

Ystyriodd yr ymchwiliad hefyd p’un a ddarparwyd gofal a monitro priodol mewn perthynas ag anghenion maethol Mrs C tra oedd yn yr ysbyty.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod rhai pryderon ynglŷn â pha mor aml y darparwyd gofal ar un ward, nad oedd hyn wedi arwain at ddatblygu unrhyw friwiau pwyso. Nid oedd unrhyw bryderon ynghylch y gofal a ddarparwyd ar ward yn ddiweddarach pan ddatblygodd friw pwyso ar sacrwm Mrs C (y darn wrth waelod yr asgwrn cefn). Mae’n debygol iawn y byddai wedi bod yn amhosibl osgoi’r briw yma. Nid oedd unrhyw arwydd bod y dirywiad i friw pwyso Mrs C ar ôl iddi gael ei rhyddhau, nac unrhyw ddirywiad cysylltiedig yn ei hiechyd, o ganlyniad i fethiannau gan yr ysbyty.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd, mewn perthynas ag anghenion maethol Mrs C, y darparwyd gofal, monitro a mewnbwn priodol. Er y nodwyd diffygion o ran cadw cofnodion, penderfynwyd nad oedd hyn wedi atal yr ymyriadau priodol rhag cael eu gwneud i Mrs C. Ni chadarnhawyd y gŵyn.

Yn ôl