Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

05/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202101683

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Miss L am y gofal a roddwyd i’w diweddar fam, Mrs L, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”). Holodd Miss L a oedd gosod stentau arennol yn rhesymol, a oedd 2 ollyngiad o’r ysbyty yn briodol, a oedd modd osgoi’r amgylchiadau a arweiniodd at i Mrs L syrthio, ac a oedd y ffaith fod Mrs L yn colli pwysau wedi’i reoli’n briodol.

Canfu’r Ombwdsmon, er ei bod yn briodol mewnosod stent yn ochr dde Mrs L, bod rhai cofnodion clinigol ar goll, a doedd dim modd penderfynu a oedd yn rhesymol mewnosod stent yn ei hochr chwith. Canfu’r Ombwdsmon fod y methiant i gadw cofnodion yn fethiant difrifol. O ran y 2 ollyngiad o’r ysbyty, canfu’r Ombwdsmon eu bod yn afresymol, a bod cofnodion meddygol ynglŷn â’r ail ollyngiad ar goll. Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs L yn gwisgo esgidiau amhriodol pan syrthiodd yn yr ysbyty, a phe bai mesurau priodol wedi’u cymryd i ddelio â hyn roedd yn llai tebygol y byddai hi wedi cwympo. Canfu’r Ombwdsmon nifer o ddiffygion o ran monitro pwysau Mrs L a faint roedd hi’n ei fwyta, a heb y rhain efallai na fyddai Mrs L wedi colli cymaint o bwysau. O’r herwydd, cadarnhawyd pob elfen o’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am y methiannau hyn a chynnig talu iawndal o £750 i Miss L. Cytunwyd hefyd i atgoffa staff am yr angen i ddilyn canllawiau priodol a chytunwyd i ymchwilio i absenoldeb rhai o gofnodion meddygol Mrs L, a nodi camau i atal digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol a rhannu’r adroddiad gyda’r staff perthnasol.

Yn ôl