Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

06/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202202201

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad, Mr A, gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans”) ar 22 Tachwedd 2021. Cwynodd Mrs C y bu oedi enfawr cyn i’r ambiwlans gyrraedd wedi i Mr A ddioddef trawiad ar y galon, bod y Parafeddyg wrth gyrraedd wedi dweud ei fod “wedi disgwyl canfod Mr A yn gelain”, y bu oedi cyn cynnal Electrocardiogram (ECG – prawf i wirio rhythm a gweithgaredd trydanol y galon) a bod y Parafeddyg wedi cyhoeddi mai haint ar y frest oedd y broblem.

Cwynodd Mrs C hefyd am y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr A pan gafodd ei dderbyn i Ysbyty Maelor Wrecsam (“yr Ysbyty”) ar 22 Tachwedd 2021. Yn benodol, cwynodd Mrs C y bu oedi cyn trosglwyddo Mr A i’r Uned Therapi Dwys, bod yr Ysbyty wedi dweud wrth Mrs C y gellid bod wedi gwneud mwy dros Mr A petai wedi cael ei gludo i mewn yn gynt; fodd bynnag, dywedodd ymgynghorydd wrth Mrs C yn ddiweddarach nad oedd “dim siawns ganddo”, ac roedd Mrs C wedi methu bod gyda Mr A er ei fod ar ddiwedd ei oes.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, yn ôl pob tebygolrwydd, fod y Parafeddyg wedi dweud ei fod wedi “disgwyl canfod Mr A yn gelain”. Cadarnhawyd y rhan hon o’r gŵyn ac argymhellwyd bod yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans yn ymddiheuro i Mrs C a’i theulu.

Ni chadarnhawyd gweddill cwyn Mrs C.

Yn ôl