Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

08/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202205918

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mr N am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar wraig, Mrs N, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pan gafodd ei derbyn i Ysbyty Maelor Wrecsam (“yr Ysbyty”) ym mis Gorffennaf 2022. Yn benodol, cwestiynodd a fyddai’r canlyniad i’w wraig wedi bod yn wahanol pe bai ei gofal wedi cael ei uwchgyfeirio yn dilyn dirywiad yn ei chyflwr ar 8 Gorffennaf 2022.

Canfu’r ymchwiliad, er ei bod yn annhebygol y buasai canlyniad gwahanol pe bai gofal Mrs N wedi’i uwchgyfeirio pan ddirywiodd ei chyflwr, na thrafodwyd y posibilrwydd o wneud gorchymyn dim dadebru cardio-anadlol (“DNACPR” – mae hyn yn hysbysu clinigwyr nad yw claf yn dymuno cael ei adfywio) gyda Mr a Mrs N yn ystod ei thriniaeth cemotherapi lliniarol na phan gafodd ei derbyn i’r Ysbyty ym mis Gorffennaf 2022. Ar y sail hon, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr N, rhannu’r adroddiad gyda’r rhai fu’n ymwneud â gofal Mrs N a chymryd camau i sicrhau ei fod yn defnyddio’r system ddiweddaraf i gofnodi arsylwadau cleifion.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i’r argymhellion.

Yn ôl