Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

14/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305924

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mr A wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei fod wedi cael gwybod nad oedd tyfiannau ar y chwarren bitwidol (tiwmorau), a ganfuwyd yn flaenorol, ddim yn bresennol ar sgan a wnaed ym mis Ionawr 2022. Cwynodd wrth yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn yn cyfeirio at fath o niwed nad oedd arno, ac felly nid oedd yn credu’r esboniad a gafodd gan y Bwrdd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn i Mr A o fewn 4 wythnos. Cytunodd i gynnwys ymddiheuriad am y camgymeriad yn yr ymateb cyntaf, esboniad pellach ynghylch pam nad oedd tyfiannau pitwidol Mr A yn bresennol mwyach, a diffiniadau o unrhyw derminoleg a ddefnyddiwyd.

Yn ôl