20/04/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202100471
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Miss K am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mam, Mrs L, ar ôl iddi gael ei derbyn i Ysbyty Glan Clwyd ar 18 Mehefin 2020. Yn benodol, roedd Miss K yn anhapus ynglŷn â’r ffaith bod yr ysbyty wedi methu â rhoi diagnosis o sirosis yr iau i Mrs L, wedi methu â rhoi triniaeth briodol a sefydlu ai ar ôl cael ei derbyn i’r Ysbyty y cafodd Mrs L niwmonia, roedd wedi methu â rhoi gwybod i deulu Mrs L ei bod wedi cael sepsis, roedd wedi cael gofal nyrsio gwael tra oedd ar Ward X, gan gynnwys y bwyd a’r hylif a gafodd a’r modd y rheolwyd poen.
Pan gafodd Mrs L ei derbyn, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd a wnelo hynny â’i iau ac nad oedd y profion a gafodd, gan gynnwys sgan CT, yn dangos bod ganddi sirosis yr iau. Roedd niwmonia Mrs L, yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty, wedi’i drin yn briodol gyda gwrthfiotigau. Ni chadarnhawyd yr elfennau hyn o’r gŵyn.
Ymdriniwyd yn briodol â lefelau rheoli poen Mrs L, y bwyd a’r hylif a gafodd; fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon nad oedd ei dogfennau meddygol bob amser yn cael eu cwblhau’n gywir yn unol â’r canllawiau priodol. Er bod hyn yn fethiant yn y gwasanaeth, nid oedd wedi achosi unrhyw anghyfiawnder i Mrs L ac felly ni chadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn. Yn olaf, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y diagnosis o sepsis wedi cael ei gyfleu i’w theulu, gan gynnwys Miss K, ac felly nid oeddent yn ymwybodol o’r camau a oedd yn cael eu cymryd wrth i Mrs L ddod yn fwy bregus ac yn llai ymatebol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o’r gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Miss K am y methiant hwn yn y gwasanaeth a chytunodd y Bwrdd Iechyd.