Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

04/10/2022

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202101009

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mr R am y driniaeth a gafodd ei ddiweddar frawd, Mr Y, gan y Bwrdd Iechyd. Cwynodd fod y driniaeth a gafodd ei frawd ar gyfer ffibrosis ysgyfeiniol yn amhriodol. Yn benodol, teimlai, fel Arbenigwr Annibynnol, fod digon o arwyddion bod gan ei frawd fath arbennig o ffibrosis yr ysgyfaint (“UIP”), y byddai wedi elwa o driniaeth wrthfibrotig ar gyfer hyn. Teimlai hefyd nad ymchwiliwyd i’w gŵyn am ofal ei frawd a’i rheoli yn unol â’r Canllawiau Gweithio i Wella (“Canllawiau PTR”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau”), gan gynnwys na chafodd ei drin yn deg drwy gydol y broses hon, yn benodol o ran penodi’r Arbenigwyr Annibynnol, a’r camau a gymerwyd ar ôl hyn.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi barn yr Arbenigwr Annibynnol, fod gan Mr Y UIP yn ystod y cyfnod dan sylw, ac, ar ben hynny, hyd yn oed pe bai wedi bod yn gymwys i gael triniaeth gwrthffibrotydd, oherwydd natur ei salwch a materion iechyd eraill, ni fyddai o reidrwydd wedi bod yn briodol iddo. Felly, ni chafodd y gŵyn hon ei chadarnhau. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad nad oedd elfennau o’r ffordd yr ymdriniwyd â chwynion yng nghyswllt cyngor yr Arbenigydd Annibynnol (gan gynnwys gofyn wedyn am gyngor pellach gan arbenigwr arall a’i bod yn ymddangos ei bod yn well ganddo wneud hyn, gan oedi rhoi gwybod i Mr R am hyn, neu am ei hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol, a’r oedi o ganlyniad i ddarparu ymateb terfynol i gŵyn Mr R) yn unol â’r disgwyliadau a amlinellir yn y Canllawiau ar gyfer Adolygiad Cyn Treial. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mr R ac felly cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr R am y materion a nodwyd, a chynnig £750 iddo am y camgymeriadau a nodwyd wrth ddelio â’r gŵyn. Argymhellodd hefyd y dylai ddiwygio ei weithdrefnau i sicrhau bod achwynwyr yn cael gwybod am eu hawliau i gael cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim ar ddechrau unrhyw broses cyfarwyddyd ar y cyd, yn unol â’r Rheoliadau, a hefyd pan fydd y Bwrdd Iechyd yn cytuno ar gyfarwyddyd ar y cyd gan gynghorydd annibynnol gydag achwynydd, os yw’n anghytuno â’r cyngor dilynol hwnnw, rhaid cytuno ar unrhyw gamau pellach y mae’n eu cymryd i sicrhau cyngor pellach gyda’r achwynydd.

Yn ôl