14/07/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202005646
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Ms X am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei merch ym mis Ionawr 2021. Roedd Ms X yn poeni am yr ymchwiliadau a gynhaliwyd gan staff mewn perthynas â phoenau abdomenol. Cafodd ei merch ei rhyddhau a’i hail-dderbyn gan yr ysbyty ar sawl achlysur cyn iddi gael diagnosis a chael triniaeth am grawniad wrth ymyl yr anws. Roedd Ms X yn anhapus ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod y gŵyn wedi cael ei hystyried yn briodol ac yn drylwyr ac roedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb manwl i’r gŵyn. Ar ôl cael cyngor gan un o gynghorwyr proffesiynol yr Ombwdsmon, roedd yn ymddangos bod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd o fewn yr ystod o ymarfer clinigol priodol ond, mewn perthynas â’r ail ryddhau o’r ysbyty, efallai y byddai monitro pellach wedi bod yn briodol.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi esboniad ysgrifenedig manwl, o fewn 4 wythnos, i Ms X o’r penderfyniad i ryddhau ei merch ar ôl iddi ddod yn ôl i’r Adran Achosion Brys. Ym marn yr Ombwdsmon, roedd y camau uchod yn rhesymol i setlo cwyn Ms X.