Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

23/05/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202208440

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mr B ei fod yn anhapus â’r penderfyniad i’w ryddhau o’r Adran Achosion Brys. Dywedodd nad oedd y recordiad teledu cylch cyfyng ohono’n mynd i’r adran ar gael mwyach, ac nad oedd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â sylwadau a wnaed gan feddyg.

Gofynnodd yr Ombwdsmon am gyngor gan gynghorydd clinigol proffesiynol a chanfuwyd na ddylid bod wedi rhyddhau Mr B cyn iddo gael ei weld gan y tîm ffisiotherapi, fel yr argymhellwyd. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus bod y recordiad teledu cylch cyfyng wedi’i ddileu ar ôl 30 diwrnod, er bod y Bwrdd Iechyd yn ymwybodol bod Mr B wedi cyflwyno honiad o ymosodiad.

Canfu’r Ombwdsmon na ellid cyflawni unrhyw gamau pellach o ran sylwadau a wnaed gan feddyg.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr B am y penderfyniad i’w ryddhau heb iddo gael ei weld gan y tîm ffisiotherapi, ac am beidio cadw’r ffilm TCC o’i bresenoldeb, o fewn 20 diwrnod gwaith.

Yn ôl