Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dyddiad yr Adroddiad

12/01/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202205569

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cwynodd Ms X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar fam, Mrs X, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Dywedodd Ms X fod yr ymateb i’w chŵyn gan y Bwrdd Iechyd yn cynnwys anghysondebau ac wedi methu ag ateb ei chŵyn yn iawn.

Casglodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn cynnwys gwybodaeth anghyson ac anghytûn. Casglodd hefyd nad oedd wedi ateb cwyn Ms X yn briodol. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus bod diagnosis clinigol y Bwrdd Iechyd o gyflwr Mrs X yn wahanol i ganfyddiadau’r post mortem a wnaed wedyn ac nad oedd Ms X wedi cael cyfle i drafod y canfyddiadau gyda’r Bwrdd Iechyd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn ceisio datrys cwyn Ms X fe gytunodd y Bwrdd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i drefnu cyfarfod â Ms X i geisio datrys y pryderon oedd heb gael ateb yn ei chŵyn ac i drafod canlyniadau archwiliad post mortem ei diweddar fam.

Yn ôl