Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dyddiad yr Adroddiad

03/10/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Setliad Gwirfoddol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202302433

Math o Adroddiad

Setliad Gwirfoddol

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cwynodd Ms A am y diffyg cydnabyddiaeth o anghenion ei merch, Plentyn B, pan oedd yn yr uned gofal dwys pediatrig (“yr Uned”). Mae gan Blentyn B anabledd difrifol ac mae’n ddi-eiriau.

Cyflwynodd y Bwrdd Iechyd gynigion setlo a oedd yn cynnwys cynnal adolygiad pellach o ofal Plentyn B, darparu gwybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael i gefnogi teuluoedd a meincnodi polisi’r Uned ynglŷn â rhieni yn aros dros nos gyda’u plant tra byddant yn derbyn gofal dwys yn erbyn Unedau eraill. Cytunwyd hefyd i gwrdd â’r teulu yn dilyn yr adolygiad. Cytunodd y Bwrdd Iechyd, fel rhan o’r setliad, â chynnig yr Ombwdsmon y dylai un o’u huwch Hyrwyddwyr Anableddau Dysgu fod yn rhan hefyd o’r adolygiad o ofal Plentyn B.

Yn ôl