Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dyddiad yr Adroddiad

21/11/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202301378

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cwynodd Miss B am y gofal clinigol a’r driniaeth a gafodd ei phartner, Mr A, yn Ysbyty Athrofaol Cymru (“yr Ysbyty”). Ystyriodd yr ymchwiliad p’un a allai’r oedi cyn dechrau triniaeth addas ar gyfer hepatitis B Mr A ym mis Medi 2022 fod wedi arwain at effaith niweidiol ar ei iechyd. Cafodd yr haint ei ganfod yn dilyn profion gwaed ym mis Ionawr 2021, ond ni chafodd triniaeth ei hystyried nes i Mr A gael gwybod yn ffurfiol am y diagnosis ym mis Gorffennaf 2022, tua 17 mis yn ddiweddarach.
Canfu’r Ombwdsmon fod gan Mr A hepatitis B cronig yn barod pan gafodd ei brofi ym mis Ionawr 2021 ac y byddai wedi bod yn bresennol am fwy na 6 mis, a fwy na thebyg am flynyddoedd lawer cyn hynny. Nid oedd yr oedi cyn dechrau triniaeth wedi arwain at unrhyw effeithiau niweidiol nac andwyol ar iechyd Mr A, ac nid oedd unrhyw symptomau eraill a gafodd yn ystod y cyfnod hwnnw yn gysylltiedig. Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Yn ôl