Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dyddiad yr Adroddiad

12/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202108560

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cwynodd Miss A am y gofal a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) yn dilyn llawdriniaeth ar yr ymennydd ym mis Mawrth 2021. Ystyriodd yr ymchwiliad y gofal a’r driniaeth a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru rhwng 28 Mawrth a 3 Ebrill 2021, lle cafodd lawdriniaeth ar yr ymennydd i dynnu math prin o diwmor ar yr ymennydd. Ystyriodd hefyd y modd y cynlluniwyd iddi gael ei rhyddhau, pa mor glinigol briodol oedd ei rhyddhau ac a ddarparwyd cefnogaeth briodol i ateb ei hanghenion ar ôl iddi gael ei rhyddhau. Yn ogystal, ystyriwyd a roddwyd ymateb priodol i’w cheisiadau wedyn am gymorth ychwanegol, ac a oedd sylw digonol wedi’i roi i’w phroblemau iechyd parhaus yn sgil ei llawdriniaeth. Yn olaf, ystyriwyd a oedd y diffygion yn y gofal a roddwyd a’r wybodaeth a ddarparwyd, fel y’u disgrifiodd yn ei chŵyn, yn golygu bod camwahaniaethu wedi digwydd yn ei herbyn.

Bodlonwyd yr Ombwdsmon fod pob agwedd ar ofal Miss A heb gwympo o dan safon glinigol briodol. Canfu’r Ombwdsmon yr ymatebwyd yn briodol i geisiadau Miss A am gyngor a chymorth, gan gynnwys cyfeirio at drydydd partïon priodol. Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi darparu’r holl gefnogaeth y gallai ei rhoi i Miss A. Er nad oedd gan yr Ombwdsmon hawl i ddod i ddyfarniad ynglŷn â gwahaniaethu, roedd yn fodlon nad oedd tystiolaeth o fethiannau mewn perthynas â’r gofal a roddwyd na’r wybodaeth a ddarparwyd. Felly ni chadarnhawyd cwynion Miss A.

Yn ôl