Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dyddiad yr Adroddiad

20/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306095

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cwynodd Ms X nad oedd ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) i’w chŵyn yn ateb ei phryderon am ofal a thriniaeth ei thad yn yr Uned Asesu a Gofal Integredig (“yr Uned Asesu”).

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod i Ms X bod ei phryderon yn cael eu hymchwilio a bod y Bwrdd yn ymddiheuro am yr oedi, mai esboniad cyffredinol o sut mae’r Uned Asesu’n gweithredu oedd ei ymateb i’r gŵyn. Nid oedd yn mynd i’r afael â phryderon penodol Ms X am ofal a thriniaeth ei thad. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms X, egluro’r materion oedd yn peri pryder iddi a chytuno i ymchwilio yn unol â gweithdrefn gwynion y GIG o fewn 10 diwrnod gwaith.

Yn ôl