05/10/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Ni Chadarnhawyd
202004044
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Cwynodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi diagnosis prydlon o ganser y croen iddo a bod yr oedi hwn wedi achosi i’r canser waethygu a lledu.
Casglodd ymchwiliad yr Ombwdsmon, ar yr adeg yr atgyfeiriwyd Mr A i’r Bwrdd Iechyd gan ei feddyg teulu, ei bod yn rhesymol barnu ar sail y wybodaeth yn yr atgyfeiriad bod gan Mr A ganser celloedd gwaelodol (math cyffredin o ganser y croen sy’n lledu’n araf yn haenau uchaf y croen) ac y dylid ei reoli ar sail hynny’n defnyddio llwybr triniaeth canser risg isel.
Pan adolygwyd Mr A wyneb yn wyneb gan glinig dermatoleg y Bwrdd Iechyd, cymerwyd biopsi a darganfod melanoma malaen nodwlaidd cam 3 (math o ganser y croen sy’n tyfu’n sydyn) a chafodd ei ofal ei gyflymu’n briodol o ganlyniad. Er bod oedi wedi bod cyn rhoi gwybod i Mr A am ei ddiagnosis, derbyniodd yr Ombwdsmon gyngor gan ei gynghorydd proffesiynol fod yr oedi’n annhebygol o fod wedi arwain at ganlyniad clinigol niweidiol i Mr A. Penderfynwyd peidio â derbyn y gŵyn felly.