Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dyddiad yr Adroddiad

23/11/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202303378

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi darparu ymateb digonol i’w chŵyn am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar ŵr. Dywedodd, yn dilyn cyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd ar 10 Gorffennaf 2023, nad yw wedi darparu unrhyw gofnodion/recordiad o’r cyfarfod. Ar ben hynny, roedd y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i wneud ymholiadau pellach ar sail y ffeithiau a rannodd yn ystod y cyfarfod, ac i drefnu cyfarfod pellach gyda’r ymgynghorydd a oedd yn arwain ar ofal ei gŵr, ond nid oedd wedi gwneud hynny.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i drefnu cyfarfod pellach gyda Mrs A ond nad oedd wedi gwneud hynny. Roedd y ffaith na chafodd ei chŵyn ei datrys yn anghyfiawnder i Mrs A.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Mrs A i gadarnhau dyddiad ar gyfer y cyfarfod, o fewn 10 diwrnod gwaith. Yn ogystal â hynny, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi copi o’r cofnodion/recordiad o’r ddau gyfarfod i Mrs A o fewn 20 diwrnod gwaith i’r ail gyfarfod.

Yn ôl