Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dyddiad yr Adroddiad

22/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202006154

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cwynodd Ms B am y modd y gwnaeth y Bwrdd Iechyd ymdrin ac ymchwilio i bryderon diogelu pan gyflwynodd ei phlentyn, Babi A, i’r ysbyty gydag anaf i’r pen. Cododd bryderon am gydsyniad a gwybodaeth, yr ymchwiliadau diagnostig a wnaed a’r ymatebion a roddwyd i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Dechreuwyd achos gofal yn seiliedig ar ganfyddiadau sgan CT yn nodi anaf oedd efallai heb fod yn ddamweiniol, ond canfuwyd wedi hynny nad oedd sail i hyn.

Canfu’r Ombwdsmon ddiffygion o ran cael caniatâd gwybodus (yn unol â chanllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol) ar gyfer yr ymchwiliadau gan nad oedd digon o dystiolaeth bod trafodaethau digonol wedi digwydd gyda Ms B ynghylch y broses ddiogelu a sut y gellid defnyddio canlyniadau’r ymchwiliadau. Canfu’r Ombwdsmon hefyd, o ystyried natur ac ansicrwydd diagnostig canfyddiadau’r sgan CT, ac oedran ifanc Babi A, y dylid bod wedi cael adolygiad niwroradiolegol pediatrig arbenigol. Er bod staff y Bwrdd Iechyd wedi gofyn am yr adolygiad hwn, ni chafodd ei ddarparu gan nad oedd trefniadau’r Bwrdd Iechyd yn ddigon cadarn i sicrhau y gellid ei gael pan oedd cais amdano. Roedd yn amhosibl dweud a fyddai barn bellach wedi newid yr hyn a ddigwyddodd wedyn, ond oherwydd na chafwyd barn o’r fath roedd ansicrwydd ynghylch pa mor gyflawn oedd yr adolygiad radiolegol o’r sgan CT, ac roedd hyn yn anghyfiawnder parhaus i Ms B a’i theulu.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd argymhellion yr Ombwdsmon. Ymhlith y rhain, argymhellwyd sefydlu mecanwaith ffurfiol ar gyfer cael adolygiad niwroradiolegol pediatrig arbenigol mewn achosion lle bo gofyn am hyn, ac adolygu ei ffurflen ‘caniatâd i asesiad meddygol’ i gefnogi cael cydsyniad gwybodus. Cytunodd y Bwrdd hefyd i dalu iawndal o £1500 i Ms B.

Yn ôl