14/12/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202206257
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ym mis Medi 2022, heb ddarparu gofal a thriniaeth ddigonol i’w mab, Mr B, a oedd wedi torri ei fraich. Roedd Mr B wedi dioddef torasgwrn i’w hwmerws (asgwrn hir yn rhan uchaf y fraich).
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi sicrhau bod toriad braich uwch Mr B yn cael ei gynnal yn ddigonol cyn iddo gael ei ryddhau o’r ysbyty. Roedd angen ffrâm ysgwyddol (humeral brace) ar Mr B (sef ffrâm wedi’i wneud o ddefnydd cynhaliol a strapiau i ddal yr asgwrn yn ei le). Fel arall, dylai ei fraich fod wedi cael ei osod mewn cast plastr “slab U” o’i arddwrn i’w ysgwydd, ond ni chafodd y naill na’r llall. O ganlyniad, profodd 3 diwrnod o boen ac anghysur ychwanegol y gellid bod wedi ei osgoi. Cadarnhawyd y gŵyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro a thalu iawndal ariannol i Mr B. Cytunodd i safoni hyfforddiant i ddysgu staff pa bryd i ffitio gwahanol fathau o gynhaliaeth torasgwrn a sicrhau bod holl staff yr AAB yn cael eu hyfforddi i osod ffrâm ysgwyddol. Cytunodd hefyd i drefnu hyfforddiant i holl staff yr ystafell blastro ar sut i osod plastr “slab U”.