06/04/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202107067
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w gohebiaeth, dyddiedig 3 Chwefror 2021 a 6 Gorffennaf 2021.
Yn dilyn ymchwiliad gan y Bwrdd Iechyd, darparodd Ms X wybodaeth ychwanegol y dywedodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n ei hadolygu.
Nododd yr Ombwdsmon oedi cyn ymateb i Ms X. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro iddi am yr oedi cyn ymateb ac am y diffyg cyfathrebu yn yr achos. Cytunodd hefyd i roi ymateb erbyn 30 Ebrill fan bellaf 2022.