04/08/2021
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202002766
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar frawd gan Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol y Bwrdd Iechyd. Yn benodol, cwynodd fod y Bwrdd Iechyd, rhwng mis Hydref 2018 a mis Mai 2019, wedi methu â darparu lefel ddigonol o fonitro iechyd meddwl ei brawd, ac nad oedd y dirywiad yn ei iechyd meddwl wedi’i nodi na’i gofnodi’n briodol. Cwynodd hefyd fod cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd â’r teulu yn wael ac nad oedd eu pryderon wedi cael eu cofnodi’n ddigonol ac na weithredwyd arnynt.
Canfu’r ymchwiliad fod cofnodion y Bwrdd Iechyd yn gynhwysfawr a bod lefel y monitro iechyd meddwl a ddarparwyd yn gyson ac yn unol â chanllawiau clinigol. Ni chafodd yr agwedd hon ar gŵyn Ms A ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod Nyrs Seiciatrig Gymunedol y Bwrdd Iechyd wedi trafod trefniadau gofal gyda’r teulu a bod y sgyrsiau hyn wedi’u cofnodi’n dda. Fodd bynnag, canfuwyd methiannau o ran prydlondeb ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Ms A, gyda’i ymateb ffurfiol yn cymryd 5 mis i’w gyhoeddi. Achosodd yr oedi hwn ofid pellach i’r teulu yn ystod cyfnod a oedd eisoes yn anodd iawn. Felly, cafodd y rhan hon o gŵyn Ms A ei chyfiawnhau i’r graddau cyfyngedig hyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd, o fewn mis i’w adroddiad, ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd a thalu iawndal o £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth o ddod gyflwyno ei chwyn i’w swyddfa.