12/07/2021
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty
Datrys yn gynnar
202101252
Datrys yn gynnar
Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a gafodd yn yr Uned Bron Brawf yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Cwynodd Mrs X hefyd am yr oedi cyn derbyn ymateb ysgrifenedig pellach y Bwrdd Iechyd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig llawn i Mrs X o fewn 30 diwrnod gwaith, i gynnwys esboniad ac ymddiheuriad. Cytunodd hefyd i roi taliad o £250 i Mrs X am ei hamser a’i thrafferth wrth gyflwyno’r gŵyn i’r Ombwdsmon.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn setliad priodol.