Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

22/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304888

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mrs A ei bod yn anhapus gydag oedi parhaus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth ddarparu triniaeth orthodontig i’w merch.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs A wedi cyflwyno cwyn ym mis Mai 2023. Ond doedd y Bwrdd Iechyd ddim wedi darparu ymateb ‘Cywiro pethau’. Canfu hefyd fod triniaeth wedi’i oedi oherwydd anawsterau’r Bwrdd Iechyd i recriwtio deintydd adferol priodol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb yn llawn i’r gŵyn, gan gynnwys rhoi diweddariad ar yr ymdrechion i recriwtio deintydd adferol i ddatblygu gofal ei merch, a hynny o fewn 20 diwrnod gwaith.

Yn ôl