Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd: Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dyddiad yr Adroddiad

08/11/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202203641

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cwynodd Mr A a oedd y driniaeth a gafodd gan Bractis Deintyddol (“y Practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rhwng mis Mai 2019 a mis Medi 2021 yn briodol.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod Mr A wedi cael ei weld yn y Practis ar sawl achlysur rhwng mis Mai 2019 a mis Medi 2021 pan nodwyd traul sylweddol ar ei ddannedd a phroblemau deintyddol cysylltiedig. Cynigiwyd triniaeth a’i chyflawni, a rhoddwyd cyngor i Mr A ar sut y gallai gynnal iechyd y geg. Oherwydd cymhlethdod y draul ar ddannedd Mr A, cafodd ei gyfeirio at un o ysbytai deintyddol y GIG. Canfu bod triniaeth Mr A yn briodol.

Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.

Yn ôl