Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill : Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dyddiad yr Adroddiad

02/05/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202107266

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cwynodd Mr A am y gofal a dderbyniodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”). Fe ystyriodd yr ymchwiliad yn benodol a fu methiant i adnabod a gwneud diagnosis o ganser y colon Mr A drwy’r rhaglen monitro’r coluddion, ac a arweiniodd y methiant hwn at driniaeth y bu’n rhaid iddo ei derbyn wedi hynny, a’r driniaeth honno’n fwy ymyrrol, a olygodd y bu’n rhaid iddo gael echdoriad anteriol o’r coluddyn a chael bag colostomi parhaol.

Canfu’r ymchwiliad bod y rhaglen arferol o fonitro’r coluddion a oedd yn cynnwys ymchwiliadau radiolegol, apwyntiadau ddwywaith y flwyddyn i’r clinig a monitro CEA (protein sy’n cael ei gynhyrchu gan rai mathau o ganserau) yn briodol. Fodd bynnag, collwyd cyfleoedd i gynnal ymchwiliadau pellach a allai fod wedi arwain at ddiagnosis cynharach. Ni allai’r ymchwiliad ddweud gyda sicrwydd a fyddai opsiynau triniaeth llai ymyrrol wedi bod ar gael i Mr A pe byddai wedi derbyn diagnosis cynharach, fodd bynnag, roedd yr ansicrwydd ei hun yn cynrychioli anghyfiawnder i Mr A. Cadarnhawyd cwyn Mr A.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A a thalu taliad gwneud iawn o £750 iddo er mwyn adlewyrchu’r ansicrwydd ynglŷn ag a allai ei opsiynau triniaeth fod wedi bod yn llai ymyrrol. Yn ogystal, cytunodd i ddarparu tystiolaeth bod ei Raglen Monitro Coluddion yn cynnwys yr angen am atgyfeiriad i Dîm Amlddisgyblaeth y Colon a’r Rhefr i gael cyngor arbenigol, os oedd canfyddiadau radiolegol annormal wedi’u hategu gan lefel CEA ac y dylai’r Tîm Amlddisgyblaethol ystyried a yw sgan PET wedi’i nodi’n glinigol.

Yn ôl