18/09/2023
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Ni Chadarnhawyd
202207982
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar wraig gan Bractis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Practis”) ym mis Hydref 2021. Yn benodol, cwynodd Mr A y dylai ei wraig fod wedi cael ei derbyn i’r ysbyty ar ôl ymgynghoriadau â Meddyg Teulu rhwng 25 Hydref 2021 a 29 Hydref 2021, ac a oedd yn bosib bod y Meddyg Teulu wedi methu gweld symptomau sepsis a allai fod wedi rhoi gwell siawns i’w wraig oroesi.
Canfu’r Ombwdsmon bod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Practis ym mhob ymgynghoriad yn ystod y cyfnod yn briodol yn glinigol ac y cynhaliwyd archwiliadau addas. Nododd bod amseriad yr ymgynghoriadau a’r newidiadau yn y ddarpariaeth gofal iechyd o ganlyniad i’r prinder tiwbiau casglu gwaed ar lefel ryngwladol ar ddiwedd 2021 yn debygol o fod wedi bod yn ffactor bwysig ym mhroses gwneud penderfyniadau’r Meddyg Teulu, a ystyriwyd i fod o fewn yr ystod ymarfer clinigol priodol.
Felly ni chadarnhawyd cwyn Mrs X am y Practis Meddygon Teulu.