30/03/2023
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202107872
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Mr A ar ran ei wraig, Mrs A, am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Feddygfa Meddygon Teulu (“y Feddygfa”) a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”). Dywedodd Mr A fod y Feddygfa wedi methu ymateb yn briodol pan aeth Mrs A yn fwy a mwy sâl, a arweiniodd at gael ei derbyn i’r ysbyty ar frys. Dywedodd Mr A fod y Feddygfa hefyd wedi lleihau dos meddyginiaeth Mrs A mewn camgymeriad o’r hyn a ragnodwyd yn ei nodiadau rhyddhau o’r ysbyty. Yn olaf, cwynodd Mr A hefyd am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’i gŵyn a oedd yn cynnwys dulliau cyfathrebu gwael ac oedi cyn darparu ymateb i gŵyn.
Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y gofal a ddarparwyd i Mrs A gan y Feddygfa yn rhesymol ac yn briodol ar y cyfan. Er ei bod yn ymddangos bod camgymeriad yn y feddygfa o ran lleihau dos meddyginiaeth Mrs A, nid oedd tystiolaeth i awgrymu ei fod wedi effeithio ar reolaeth barhaus Mrs A na’i chyflwr. Nid oedd yr Ombwdsmon yn cadarnhau’r cwynion hyn. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi’n afresymol wrth ymateb i gŵyn Mr A a bod yr agwedd hon ar gŵyn Mr A wedi’i chadarnhau. Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr a Mrs A a thalu £250 am yr amser a’r drafferth a gawsant wrth fwrw ymlaen â’r gŵyn hon. Yn olaf, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd adolygu ei weithdrefn delio â chwynion a chymryd camau ymarferol i sicrhau, pan fydd ymchwiliad i gŵyn yn mynd y tu hwnt i’r amserlenni a nodir yn y Canllawiau a’r Rheoliadau, bod achwynwyr yn cael esboniad ystyrlon o’r rhesymau dros unrhyw oedi.