10/02/2023
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202204444
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Canolfan Feddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mrs X nad oedd y Feddygfa wedi adnabod pa mor ddifrifol oedd symptomau ei mam Mrs Y pan ffoniodd i ofyn am apwyntiad meddyg teulu. Cynigiwyd apwyntiad ffôn arferol iddi bythefnos yn ddiweddarach, Ni wnaed unrhyw ymholiad na chyfeiriad pellach gan y Feddygfa. Cafodd Mrs X ei derbyn i’r ysbyty’r diwrnod canlynol a chael llawdriniaeth frys am rwyg yn yr aorta.
Casglodd yr Ombwdsmon fod symptomau Mrs Y wedi eu ‘brysbennu’ yn annigonol pan gysylltodd â’r Feddygfa. Er nad oedd ei symptomau’n nodweddiadol o rwyg yn yr aorta, roedd ganddi symptomau a allai fod yn ddifrifol ac a oedd angen ymchwiliad pellach gan glinigydd y diwrnod hwnnw, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Oherwydd natur anarferol ei symptomau, efallai na fyddai holi Mrs Y ymhellach am ei symptomau wedi arwain at ddiagnosis a’i derbyn yn gynt i’r ysbyty na’r hyn a ddigwyddodd. Fodd bynnag, collwyd cyfle i ystyried ei symptomau’n iawn a chyfle efallai i adnabod ei chyflwr yn gynt. Roedd y Feddygfa hefyd wedi methu â chynghori Mrs Y ar beth y dylai ei wneud pe bai ei symptomau’n gwaethygu.
Roedd y Feddygfa wedi cyflwyno hyfforddiant ychwanegol yn dilyn y gŵyn hon. O ganlyniad i ymchwiliad yr Ombwdsmon, cytunodd y Feddygfa, o fewn un mis, i:
• Ymddiheuro’n ysgrifenedig a ffurfiol i Mrs Y;
• Ystyried sut i gynnig cyngor ‘symptomau gwaethygol’ i gleifion ar ôl y broses brysbennu pan gynigir apwyntiad arferol.
Byddai’r meddyg teulu a wnaeth y brysbennu hefyd yn trafod yr achos yn ei werthusiad nesaf.