Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Canolfan Meddygol Gogledd Llandaf

Dyddiad yr Adroddiad

25/07/2022

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202202071

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Canolfan Meddygol Gogledd Llandaf

Cwynodd Mr X, er iddo gyflwyno cwyn i’w feddyg teulu ynghylch materion yn ymwneud â’i bresgripsiwn, nad oedd wedi cael ymateb na datrysiad i’w gŵyn eto.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb gan ei feddyg teulu eto, ac felly cysylltodd â’r meddyg teulu. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y meddyg teulu y byddai’n ymddiheuro i Mr X am yr oedi wrth ymateb i’w bryderon ac y byddai’n rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol iddo erbyn 8 Awst 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X.

Yn ôl