23/03/2023
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Datrys yn gynnar
202207118
Datrys yn gynnar
Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Ms A am benderfyniad y Feddygfa i dynnu ei henw oddi ar ei rhestr cleifion heb rybudd.
Canfu’r asesiad nad oedd digon o dystiolaeth bod y penderfyniad i dynnu Ms A oddi ar y rhestr wedi’i wneud yn iawn. Yn benodol, nid oedd yn ymddangos bod y Feddygfa wedi cofnodi ei phenderfyniad i beidio â rhoi rhybudd nac o’r penderfyniad i’w thynnu.
Canfu’r Ombwdsmon ei bod yn debygol y byddai Ms A wedi wynebu ansicrwydd a gofid o ganlyniad i benderfyniad y Feddygfa i dynnu ei henw oddi ar ei rhestr cleifion. Yn unol â hynny, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig.
Cytunodd y Feddygfa hefyd i adolygu ei pholisi yn unol â chanllawiau a deddfwriaeth berthnasol, i gyhoeddi a chofnodi rhybudd i gleifion ac i gofnodi’n briodol ei phenderfyniad i dynnu enw claf oddi ar ei rhestr. Cytunodd y Feddygfa i gymryd y camau hyn o fewn cyfnod o 30 diwrnod gwaith.