Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

22/07/2022

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202202134

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Ms X am y gwasanaeth gwael a gafodd gan Feddygfa Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Wrth wneud ymholiadau gyda’r Practis, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd wedi ymateb yn ffurfiol i gŵyn Ms X er iddi dderbyn cwyn ysgrifenedig ganddi. Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Practis wneud y canlynol i setlo’r gŵyn erbyn 22 Awst 2022:

a) Ymddiheuro i Ms X am fethu ag ymateb yn ffurfiol i’w chwyn

b) Rhoi ymateb ffurfiol i gŵyn Ms X yn rhoi sylw i’r materion a godwyd ganddi.

Yn ôl