Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu: Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dyddiad yr Adroddiad

18/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202301221

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cwynodd Ms A nad oedd y Practis, ar 9 Ionawr 2023, wedi cynnal ymweliad cartref ar y diwrnod yng nghartref ei thad. Cwynodd hefyd nad oedd y Practis wedi trefnu iddo fynd ar unwaith i’r ysbyty yn dilyn yr ymweliad cartref ar 12 Ionawr.

Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw ddiffygion yn y modd y rheolwyd yr ymgynghoriad dros y ffôn a wnaed ar 9 Ionawr. Ond fe wnaeth ganfod y dylsid fod wedi bod yn fwy eglur a chadw gwell cofnodion o’r trefniadau derbyn ar 12 Ionawr. Cadarnhawyd y gŵyn yn rhannol.

Darparodd y practis dystiolaeth ei fod wedi gweithredu i wella safon cadw cofnodion. Yn seiliedig ar y camau a gymerwyd eisoes, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis, o fewn mis, ymddiheuro’n ffurfiol i Ms A a’i theulu am y diffyg eglurder ynghylch y trefniadau derbyn a safon wael cadw cofnodion bryd hynny. Cytunodd y Practis i weithredu ar yr argymhelliad.

Yn ôl