Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu: Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dyddiad yr Adroddiad

15/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202301680

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cwynodd Ms A am y gofal a roddwyd i’w brawd, Mr B, ychydig cyn ei farwolaeth drist. Cwynodd Ms A nad oedd y Practis wedi cyfeirio ei diweddar frawd yn briodol at gardiolegydd a/neu am angiogram. Roedd Ms A yn flin nad oedd unrhyw hanes teuluol/dewisiadau ffordd o fyw wedi eu cofnodi yn nodiadau ei brawd. Roedd Ms A hi’n bryderus na threfnwyd unrhyw ddilyniant wedi i’w brawd ddychwelyd dyfais bersonol a ddefnyddiwyd i ganfod rhythmau annormal ar y galon i’r Feddygfa.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd gan y Practis, ar y cyfan, yn briodol. Nododd yr ymchwiliad elfen o ofal annigonol, lle dylai’r meddyg teulu fod wedi gwirio pwysedd gwaed Mr B, ond roedd yn annhebygol y byddai canfyddiadau asesiad o’r fath wedi arwain at gyfeirio Mr B at gardiolegydd.

O ran y pryder ynghylch cadw cofnodion, cydnabu’r meddyg teulu nad oedd hanes y teulu wedi’i gofnodi a bod hwn yn wers. Ond ni allai’r ymchwiliad ddod i’r casgliad bod y camweinyddu a nodwyd wedi achosi caledi nac anghyfiawnder sylweddol i Mr B.

Yn olaf, o ran defnyddio’r ddyfais i fonitro rhythm y galon, canfu’r ymchwiliad fod ei defnydd gan y Practis wedi bod yn rhesymol ac mai rhesymol hefyd oedd i’r Practis beidio â mynd ati i gynnig dilyniant i Mr B heb ragor o ddata a heb gais am ofal pellach.

Felly ni chadarnhawyd y gŵyn.

Yn ôl