10/05/2023
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Datrys yn gynnar
202300407
Datrys yn gynnar
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Ms A bod Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu delio â’i chwyn yn briodol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi darparu ymateb i Ms A, ond nad oedd yr ymateb yn cyd-fynd â’r Rheoliadau Gweithio i Wella a bod naws neu gynnwys rhannau o’r ymateb yn amhriodol. Achosodd hyn i Ms A deimlo nad oeddent wedi delio â’i chwyn yn briodol a dywedodd fod hyn wedi ymfflamychu ei phryderon.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Practis ac i ddatrys cwyn Ms A, cytunodd y dylid darparu ymddiheuriad ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith, gan gydnabod nad ymchwiliwyd i rannau o’r gŵyn neu nad oeddent wedi ymateb iddynt yn briodol ac y byddai staff yn ail-gyfarwyddo eu hunain ar sut i reoli cwynion o dan y Rheoliadau.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac ni chynhaliodd ymchwiliad.