Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu: Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dyddiad yr Adroddiad

18/12/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202202443

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cwynodd Mr B nad oedd y Practis wedi ymateb yn briodol pan ddywedodd ei fam wrthynt ei bod yn brin o wynt ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020, a’u bod heb ei chyfeirio i’r mannau priodol mewn modd amserol.

Canfu’r Ombwdsmon fod holl ymgynghoriadau mam Mr B yn y Practis o fewn yr ystod o ymarfer clinigol priodol. Doedd dim arwydd bod unrhyw fethiant gan y Practis i gynnal ymchwiliadau priodol a allai fod wedi caniatáu i ganser ei fam gael ei ganfod ynghynt. Felly, ni chadarnhawyd y gŵyn yn erbyn y Practis.

Yn ôl