Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

07/09/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304005

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mr A ei fod wedi trefnu i gael brechiadau teithio mewn Practis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Feddygfa”), ond nad oedd yr holl frechiadau ar gael ac felly bu’n rhaid iddo drefnu apwyntiad arall. Pan geisiodd drefnu apwyntiad arall, roedd y Feddygfa wedi dweud ei fod wedi cael brechiad teiffoid yn barod, ond roedd ef wedi anghytuno â hyn.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd Mr A wedi cael ymateb llawn i’w gŵyn ac roedd wedi cysylltu â’r Feddygfa. Cytunodd y Feddygfa i roi’r camau canlynol ar waith er mwyn datrys y gŵyn ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad ffurfiol:

• Trefnu cyfarfod rhwng Mr A ac un o’r Meddygon Teulu i drafod ei bryderon cyn i Mr A fynd dramor oni bai nad oes modd cytuno ar hyn rhyngddynt.

• Os nad yw’r cyfarfod yn datrys pryderon Mr A, bydd y Feddygfa wedyn yn darparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i gŵyn Mr A o fewn yr amserlenni perthnasol sydd wedi’u nodi yng ngweithdrefn cwynion y GIG.

Yn ôl