29/06/2023
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Datrys yn gynnar
202300602
Datrys yn gynnar
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Cwynodd Ms A ei bod wedi cymryd tua 6 mis i’r Practis roi presgripsiwn am feddyginiaethau a ragnodwyd gan ei chyn Bractis Meddyg Teulu yn Lloegr. Cwynodd fod y Practis wedi gwrthod cynnal prawf genynnau, nad oedd wedi cael ei nodiadau papur, ac am agwedd staff y Dderbynfa. Cwynodd hefyd nad oedd presgripsiwn ar gael i’w gasglu yn y Fferyllfa.
Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod angen cytundeb rhannu gofal cyn y gallai’r Practis roi presgripsiwn am rai meddyginiaethau. Yr amser a gymerwyd i atgyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a chael asesiad ganddo oedd yn gyfrifol am unrhyw oedi tybiedig. Nid oedd y dystiolaeth yn awgrymu bod y Practis wedi gwrthod cynnal y prawf genynnau. Roedd y Practis wedi ymddiheuro am agwedd staff y Dderbynfa a chadarnhaodd y byddai hyfforddiant ar gleifion cytundeb rhannu gofal yn cael ei gynnal. Roedd wedi cymryd camau i ddatrys unrhyw broblemau gyda chasglu presgripsiynau rheolaidd. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd nodiadau papur Ms A wedi’u cael.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i gael y nodiadau papur a throsglwyddo unrhyw wybodaeth sydd ar goll i nodiadau electronig Ms A ar ei system cofnodion cleifion o fewn mis. Cafodd y cam hwn ei dderbyn yn lle ymchwiliad.