08/04/2022
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Datrys yn gynnar
202200063
Datrys yn gynnar
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Cwynodd Mr X, er iddo wneud cwyn ffurfiol i’r Feddygfa ym mis Tachwedd 2021 ynglŷn â’r ffaith nad oedd ei gofnodion meddygol yn cael eu trosglwyddo, nad oedd wedi cael ymateb.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd Mr X wedi derbyn ymateb eto a chysylltodd â’r Feddygfa. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Meddyg Teulu i roi ymateb ffurfiol i bryderon Mr X erbyn 15 Ebrill 2022. Cytunodd y Feddygfa hefyd i ymddiheuro i Mr X am yr oedi cyn ymateb .