06/10/2021
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Ni Chadarnhawyd
202003164
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei ddiweddar frawd, Mr F, gan feddygfa (“y feddygfa”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cwynodd Mr B fod y feddygfa, rhwng 6 Chwefror 2017 a’r 2 Ionawr 2020, wedi methu â chynnal ymchwiliadau priodol a phrydlon a allai fod wedi arwain at ddiagnosis cynt o ganser yr ysgyfaint, ac wedi methu â chynnal ymchwiliadau priodol a phrydlon a allai fod wedi arwain at ddiagnosis cynt o emffysema (cyflwr sy’n achosi niwed i’r sachau aer yn yr ysgyfaint).
Casglodd ymchwiliad yr Ombwdsmon, er bod y feddygfa wedi methu ag atgyfeirio Mr F i gael pelydr-X o’r frest yn unol â chanllawiau NICE, hyd yn oed pe bai wedi derbyn pelydr-X, na fyddai wedi darganfod canser ysgyfaint Mr F ar y pryd. Felly ni achosodd y methiant i atgyfeirio Mr F i gael pelydr-X o’r ysgyfaint anghyfiawnder iddo. Ni dderbyniwyd y gŵyn gyntaf.
O ran yr ail gŵyn, casglodd yr ymchwiliad fod y feddygfa wedi methu â threfnu prawf spirometreg (sy’n mesur faint o aer y gellir ei chwythu allan mewn un tafliad gwynt) na phelydr-X o’r frest. Fodd bynnag, ni fyddai prawf sbirometreg wedi darganfod emffysema Mr F – dim ond biopsi o’r ysgyfaint neu sgan CT a fyddai wedi gwneud hynny. Hyd yn oed pe bai Mr F wedi derbyn diagnosis cynt o emffysema, ni fyddai hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i reolaeth o’i symptomau na’i ragolygon clinigol ac felly ni achosodd y methiannau y cwynwyd yn eu cylch anghyfiawnder i Mr F. Ni dderbyniwyd yr ail gŵyn.
Awgrymodd yr Ombwdsmon y dylai’r feddygfa sicrhau bod y cyfarfodydd Dadansoddi Digwyddiadau Sylweddol yn ystyried pob sesiwn ymgynghori berthnasol a chanllawiau perthnasol yn y dyfodol. Awgrymodd hefyd y dylai’r feddygfa rannu copi o’i adroddiad â’r ail feddyg teulu.