Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd lechyd Addysgu Powys

Dyddiad yr Adroddiad

14/08/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202302190

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd lechyd Addysgu Powys

Cwynodd Mr K, er ei fod wedi lleisio pryderon â’r Practis Meddyg Teulu, nad oedd wedi cael ymateb llawn.

Er bod y Practis wedi ymateb i bryderon Mr K, canfu’r Ombwdsmon nad oedd wedi rhoi sylw i’r holl bryderon a godwyd. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr K. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis Meddyg Teulu i ymddiheuro i Mr K am yr oedi cyn ymateb i’w bryderon, ac i roi ymateb llawn i’r gŵyn iddo o fewn 30 diwrnod gwaith.

Yn ôl