08/07/2021
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty
Ni Chadarnhawyd
202000868
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mrs A am gyfathrebu gwael ac ymdrin yn wael â chwynion gan feddygon teulu a Phractis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Practis Meddygon Teulu”) a methiant i drefnu cyfarfod anffurfiol am fisoedd er gwaethaf ei cheisiadau niferus.
Er bod ymchwiliad yr Ombwdsmon wedi canfod bod oedi cyn i’r Practis Meddygon Teulu ymateb i bryderon Mrs A, roedd hyn oherwydd fod angen i’r Practis Meddygon Teulu ystyried gohebiaeth bellach a anfonwyd gan Mrs A a’i gŵr. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y byddai wedi bod yn well i’r Practis Meddygon Teulu fod wedi cysylltu â Mrs A i’w hysbysu na fyddai’n gallu ymateb o fewn yr amserlen a ddarparwyd yn flaenorol. Wedi dweud hynny, nid oedd yr Ombwdsmon yn credu bod yr oedi wedi achosi unrhyw anghyfiawnder sylweddol i Mrs A. Nododd yr Ombwdsmon fod Rheolwr y Practis Meddygon Teulu wedi gofyn am wybodaeth benodol gan Mrs A ac y byddai’n trefnu cyfarfod ar ôl derbyn y wybodaeth. Fodd bynnag, nid oedd cofnod fod y Practis Meddygon Teulu wedi derbyn y wybodaeth. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfennau hyn o gŵyn Mrs A.