Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty : Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

11/08/2022

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202102655

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mrs C fod y Practis wedi methu â gwneud gwaith monitro digonol a phriodol o gyflwr ei dannedd yn dilyn triniaeth sianel y gwreiddyn (“RCT”) ym mis Ebrill 2016. Cwynodd hefyd na chafodd driniaeth brydlon a phriodol pan gododd cymhlethdodau yn dilyn y driniaeth RCT honno. Mae’r Deintydd a gynhaliodd y driniaeth wedi gadael y Practis bellach.
Canfu’r ymchwiliad y byddai rhywfaint o bydredd dannedd wedi digwydd beth bynnag oherwydd agwedd Mrs C at hylendid y geg. Fodd bynnag, ni ddilynodd y Practis y canllawiau perthnasol ynghylch amlder y cyfnodau rhwng cymryd lluniau pelydr-X o ddannedd Mrs C. Roedd hyn yn golygu bod Mrs C wedi dioddef anghyfiawnder oherwydd y gallai’r pydredd fod wedi cael ei nodi a’i drin yn gynharach, gyda llenwadau llai o faint. O ganlyniad, cadarnhawyd y gŵyn gyntaf yn rhannol. Fodd bynnag, ni chadarnhawyd ail gŵyn Mrs C oherwydd iddi gytuno i gael triniaeth RCT, er iddi cael ei rhybuddio y gallai cymhlethdodau godi. Yn ogystal, roedd gofal cyffredinol y Deintydd a’r gwaith o fonitro’r dant yn dilyn y RCT yn adlewyrchu arfer clinigol da.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis ysgrifennu at Mrs C i ymddiheuro am y ffaith nad oedd llun pelydr-X o’i dannedd wedi cael ei dynnu mor aml ag y dylai ar gyfer lefel y risg a gofnodwyd. Derbyniodd y Practis argymhelliad yr Ombwdsmon. Gwahoddodd yr Ombwdsmon y Deintydd ymhellach i fyfyrio ar ganfyddiadau’r ymchwiliad ac i adolygu’r canllawiau priodol fel rhan o’i datblygiad proffesiynol parhaus. Cytunodd y Deintydd i wneud hynny.

Yn ôl